Lleoliad: Beddgelert
Mae pentref prydferth Beddgelert, yng Nghanol mynyddoedd Eryri, yn fan cychwyn i Gerddwyr yr Haf 'Midsomer Ramblers' ar eu taith gerdded i gopa'r Wyddfa ar hyd Llwybr y Mwyngloddwyr - un o'r pum llwybr sy'n arwain i ben yr Wyddfa.
Mae Beddgelert, sy'n golygu wrth gwrs 'Bedd (y ci) Gelert', yn enwog am chwedl y ci ffyddlon a roddodd i'r pentref ei enw. Yn ôl y chwedl, Gelert oedd enw ci ffyddlon y Tywysog Llywelyn, tywysog yng Ngogledd Cymru yn y drydedd ganrif ar ddeg.
Un diwrnod aeth Llywelyn allan i hela, a gadael Gelert i warchod ei fab bychan a gysgai yn ei grud. Pan ddychwelodd fe'i harswydwyd i ddarganfod y crud yn wag a Gelert yn rhuthro ato i'w groesawu gyda gwaed yn diferu o'i geg. Yn ofni'r gwaethaf tynnodd Llywelyn ei gleddyf o'r wain a thrywanodd Gelert. Atebwyd cwynfanau olaf y ci cyn iddo farw gan swn parablus y baban bychan. Rhuthrodd Llywelyn i godi'r crud a chael ei fab yn holliach, a thu cefn iddo'r blaidd anferth a laddwyd gan Gelert ei gi ffyddlon. Dywed y chwedl fod y tywysog mor athrist fel na wenodd byth wedyn. Cofnodir yr hanes gan gofgolofn rhyw 500 medr o waith cerdded o'r pentref ar hyd llwybr glan yr afon - dilynwch yr arwyddion.
Ond heddiw nid y stori waedlyd hon o lofruddio ci ffyddlon yw'r hyn a ddaeth ag enwogrwydd i un o bentrefi harddaf Gogledd Cymru. Mae amlder y bocsys ffenest llawn o flodau lliwgar sydd i'w gweld ym Meddgelert wedi ennill i'r pentref nifer o wobrau cenedlaethol am ei harddwch cyffredinol. A hefyd gall unrhyw ymwelydd sy'n meddu dant melys fwynhau Hufen Ia enwog Siop Glaslyn.
Lleoliad: Llanberis
Galwch yng Ngwesty Royal Victoria, Llanberis, lle bu'r actorion a'r criw ffilmio'n aros yn ystod ffilmio'r bennod hon o Midsomer Murders, ac o ystyried pwysigrwydd lleoliad ffilmio mae gan Lanberis bopeth sydd ei angen.
Nid nepell o droed yr Wyddfa mae adfeilion Castell Dolbadarn, a gall ymwelwyr fwynhau hynodrwydd yr adfail hanesyddol hwn neu rwyfo cwch ar draws Llyn Padarn. A phan na fydd y tywydd ar ei fwynaf bydd ymweld â gorsaf bwer y Mynydd Trydan yn ddwfn yng nghrombil y ddaear yn ddigon o ryfeddod i'r mwyaf anturus.
A beth fyddai'n ffordd well i ailbrofi cyffro diwrnod yn y mynyddoedd na chael peint neu ddau yn 'The Heights Hotel' ar Stryd Fawr, Llanberis, a dyma hefyd westy sydd a'i wal ddringo dan do ei hun!
Mae'r Heights yn un o nifer o dafarndai ar y Stryd Fawr sy'n croesawu dringwyr, a dyna Pete's Eats sy'n enwog am gynnig i gerddwyr fygiau stemllyd o de a byrbrydau poeth ar ôl iddynt goncro'r Wyddfa!
Lleoliad: Nant Peris
Pentre' bach ger Llanberis ar yr A4086. Ychydig i fyny ar y llechwedd mae bwthyn bychan gwyn (gweler y llun uchod) a thynnwyd lluniau ohono i fod yn gartref i'r cymeriad David Mostyn yn y bennod arbennig hon o'r ffilm. Erbyn hyn mae'n eiddo preifat i gwmni cerdded o Lerpwl

