Lleoliad: Castell Bryn Bras, Llanrug, ger Caernarfon, Gwynedd
Mae Castell Bryn Bras yn adeilad rhestredig gradd II, sy'n eiddo i Marita a Neville Gray-Parry, ac sydd wedi ei leoli yn amgylchoedd trawiadol Parc Cenedlaethol Eryri.
Adeiladwyd y Castell yn yr arddull Romanésg Newydd ar fframwaith cynharach rhwng 1829 a 1835 ar gyfer Thomas Williams (1795-1874) - atwrnai wrth gyfraith diwylliedig Cymraeg - a'i wraig Lauretta Maria. Priodolir y dyluniad i'r pensaer Thomas Hopper (1766-1856), a oedd yn adeiladu Castell Penrhyn gerllaw ar yr un adeg.
Gan fod Castell Bryn Bras yn gartref yn ogystal â chastell, gallwch aros yn un o saith rhandy hunanarlwyo, ac archwilio'r lleoliad lle ffilmiwyd y bennod hon o 'The Persuaders'. Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen isod.
Tra byddwch chi yn Llanrug, beth am i chi ymweld â phlac 'Tomb Raider' y Trywydd Ffilmiau, sydd wedi ei leoli ger mynedfa Gwesty Seiont Manor yn y pentref. Os ydych chi'n dymuno tipyn o steil yn ystod eich arhosiad, trefnwch eich bod yn aros yn y swît 4-postyn yr arhosodd Angelina Jolie ynddo yn ystod ffilmio 'Tomb Raider!'

