Lleoliad:Gorsaf Ffestiniog, Goleudy Ynys Lawd (Ynys Môn), Penrhyn Llŷn
Mae llechi yn rhan annatod o Blaenau Ffestiniog a'r ardal heb os nac oni bai! Ond er gwaethaf yr olwg lwm sydd i dref wedi'i hadeiladu bron yn gyfan gwbl o'r garreg lwyd, mae Blaenau mewn gwirionedd yn gymuned lawn mynd, fodern dros ben sydd â'i byd diwylliannol bywiog ei hun.
Bydd gwyl gerddoriaeth a chelfyddydau flynyddol o'r enw 'Stomp 'Stiniog' yn denu nifer fawr o bobl yno bob mis Mehefin. Bydd cynulleidfaoedd llawn bywyd yn gorlifo i'r strydoedd o far Gwesty'r Frenhines er mwyn gwrando ar lu o grwpiau roc yn heulwen boeth yr haf (mae'n wir ichi - mae'r haul yn tywynnu ym Mlaenau Ffestiniog er gwaethaf y syniadau anghywir!).
Ond er mwyn deall Blaenau'r oes sydd ohoni, rydych chi'n gorfod camu'n ôl i'r gorffennol pan oedd Blaenau yn allforio mwy o lechi yn y byd na neb arall. Yn Ogof Chwarel Llechwedd cewch fynd i grombil y ddaear er mwyn gweld a theimlo sut fywyd y byddai'r chwarelwyr wedi'i gael.
Mae goleudy hanesyddol Ynys Lawd wedi ei leoli ar ynys fechan y gellir ei chyrraedd trwy gerdded 400 o risiau i lawr ochr clogwyni serth y tir mawr. Gall ymwelwyr fynd o amgylch ystafell beiriannu a man arddangos yr hen oleudy cyn dringo i ben y goleudy. Mae Ynys Lawd yn lle rhyfeddol i wylio miloedd o adar môr sy’n paru, gan gynnwys heligogod, llursod a phalod.
P'run ai cefndir dramatig y goleudy o'r 19eg ganrif a phont grog wrth droed 60 metr o glogwyni neu arogl a lliw y grug arfordirol a golygfa miloedd o adar nythu wedi clwydo'n eryglus ar ochrau clogwyni - byddwch yn siwr o ddarganfod rhywbeth i'ch plesio pan fyddwch yn ymweld.
Bu'r enw da sydd i Benrhyn Llŷn o fod yn lle gwych ar gyfer chwaraeon dwr, yn fodd i ddenu gwyl Wakestock i'r ardal. Wakestock yw'r gystadleuaeth Sgîfyrddio fwyaf yn Ewrop (camp newydd gyffrous - cymysgedd o frigdonni a sgïo-dwr).
Bob mis Gorffennaf bydd miloedd o Sgîfyrddwyr yn heidio i'r ardal i gystadlu mewn prif bencampwriaeth - cynhelir gwyl gerddoriaeth hefyd sy'n denu rhai o DJs a grwpiau blaenllaw'r byd ac ar frig y rhaglen eleni fydd Feeder, Carl Cox a'r Zutons. Prif dref Penrhyn Llyn yw Pwllheli sy'n cynnal marchnad awyr agored enwog ar y Maes (sgwâr y dref) bob dydd Mercher, lle bydd y siopwyr â llygad barcut yn chwilio am fargen neu ddwy!
Ac os ydych chi eisiau bwyd ar ôl chwilio am fargeinion ar amryw stondinau'r farchnad ar y Maes, yna mae Allports yn aros amdanoch - llwyddodd i ennill teitl y siop 'sgod a 'sglod orau ym Mhrydain un tro!

