Y Sêr: Brenda Blethyn, Alfred Molina, Christopher Walken, Lee Evans
Cyfarwyddwr: Nick Hurran
Disgrifiad: Mewn tref fechan yng Nghymru, mae Betty (Brenda Blethyn) yn briod â’r cynghorydd tref godinebus Hugh Rhys-Jones (Robert Pugh), ac yn gorfod gofalu am ei fam atgas a thrafferthus. Pan mae’r fam yn tagu i farwolaeth ar fowlen o rawnfwyd, mae hi’n cyfarfod ymgymerwr angladdau lleol Boris Plotz (Alfred Molina) sydd wedi cadw serch amdani’n gyfrinach ers ei blentyndod. Yn y cyfamser, mae ymgymerwr angladdau arall, yr Americanwr ecsentrig Frank Featherbed (Walken) a’i gynorthwyydd triw (Lee Evans) yn ceisio ennill busnes trwy gynnig angladdau rhad yn cynnwys newyddbethau. Mae Boris a Betty yn datblygu cynllun manwl i ddianc gyda’i gilydd, sydd yn golygu ffugio marwolaeth Betty. Mae llond gwlad o anrhefn yn digwydd wrth i’r cynllun gael ei ddarganfod, ac mae Rhys-Jones a’i feistres (Naomi Watts) o’r diwedd yn cael ail, ac mae breuddwydion Featherbed o sefydlu ymerodraeth yn cael eu gwireddu.