Lleoliad: Pontins Prestatyn, Rhyl Sun Centre & Mynydd Parys
Y gwersyll gwyliau - un o'r pethau hynny sy'n nodweddiadol o Brydain. Ond mae'r cabanau yn null y fyddin, cystadlaethau nofwragedd pert, pen-gliniau ceinciog a rasys mulod wedi hen fynd. Atgofion a rhannau o hoff ffilmiau fel Holiday on the Buses yn unig ydynt.
Y dyddiau hyn mae Pontins yn darparu Gwyliau'r 21ain Ganrif i deuluoedd. Ar ben hynny maent yn cynnal penwythnosau arbenigol ar gyfer amrywiaeth anhygoel o ddiddordebau, fel Northern Soul, gwneud modelau, snwcer a reidio beiciau modur. Os ydych eisiau seibiant, gallwch adael hwyl a sbri Pontins ac ar ôl siwrnai fer yn y car byddwch mewn byd hollol wahanol - harddwch a thawelwch Rhaeadr Dyserth a Rhuddlan.
Mae Mynydd Parys ychydig i'r de o Amlwch ar Ynys Môn hefyd yn enwog am ei adnoddau naturiol. Yma, copr ac nid llechi sydd wedi gwneud yr ardal yn enwog ledled y byd, yn sgil y rhan hollbwysig a fu iddi yn un o'r brwydrau môr mwyaf tyngedfennol yn hanes Prydain.
Cafodd copr o Fynydd Parys ei ddefnyddio i lyfnhau cragen llong HMS Victory ym Mrwydr Trafalgar - o ganlyniad gallai deithio ddwywaith yn gyflymach, ac ni allai'r Ffrancwyr ei tharo.
Ar wahân i Fynydd Parys a'i ganolfan treftadaeth, mae'r dyfroedd o amgylch Trwyn Eilian a Phorthladd Amlwch yn adnabyddus, yn lleol, am bysgota da, ac mae llogi cwch er mwyn morio allan i ddyfroedd Môr Iwerddon ac Ynys Manaw yn sicr o arwain at ddiwrnod i'r brenin.
Elfyn a Terry sy'n cadw'r JulieAnne ac maent hwy'n gwybod ble mae'r pysgod gorau yn cuddio. Gallant hwy, gyda lwc, eich helpu chi i ddal pysgod trawiadol fel Gwyniad y Môr, Morgi, Penhaearn, Morlas, Celog, Lledod a Swtan. Ac os nad yw'r pysgod yn codi i'r abwyd, yna fe fydd 'paned enwog Terry yn sicr o godi'ch calon!

