Lleoliad: Llandudno
Yma cewch gyfle i ail-fyw oes aur y gwir wyliau glan môr Prydeinig wrth fynd am dro ar hyd pier Fictoraidd Llandudno sydd wedi'i gynnal a'i gadw'n ardderchog - ac india-roc a chardiau post powld wrth gwrs! Gallwch dreulio'r gwyliau glan môr gorau posibl yn ysblander Gwesty Castell Bodlondeb neu y tu allan i dafarn y King's Head lle mae blasu peint o gwrw oer ar noson braf yn yr Haf, yn draddodiad lleol.
Ond ar ochr arall y cerdyn post perffaith hwn fe gewch dref sy'n llawn barrau steilus a bywiog fel Fountains ar Stryd Mostyn Uchaf neu beth am wyliau glan môr cyfoes gyda Gwely a Brecwast bwtîc Escape yn Church Walks sy'n edrych dros y dref.

