Lleoliad: Portmeirion, Parc Cenedlaethol Eryri
Mae Portmeirion wedi'i argraffu ar gof cenhedlaeth gyfan a dyfodd i fyny yn ystod chwedegau'r hwyl a sbri - dyma lle cafodd cylt-gyfres The Prisoner ei ffilmio. Roedd pentref Eidalaidd Clough Williams Ellis, yng nghanol Eryri, yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed ar Ebrill 3ydd 2006. Mae pentref Eidalaidd Clough Williams Ellis yng nghanol Eryri yn drysor pensaernïol yng ngwir ystyr y gair, a chafodd sioeau eraill eu ffilmio yma o dro i dro, fel Brideshead Revisited a Cold Feet.
Ar ôl edmygu cynnyrch gwaith caled, eto hynod a hardd, Clough Williams Ellis gall y bobl hynny sy'n hoffi moethau, flasu'r bwyd môr lleol gorau un ym mwyty adeilad palasaidd Gwesty Castell Deudraeth.
Ond os yw eich anghenion yn fwy cymedrol, mae Deli bendigedig ym mhentref Penrhyndeudraeth gerllaw.
Mae byw mewn tref neu ddinas, ni waeth pa mor fach neu fawr ydyw, yn golygu na chawn, yn aml, wneud fel y mynnwn. Mae'r ffôn neu'r e-bost wastad yno, mae digwyddiadau'r byd ar gael ar y radio neu'r teledu, ac mae pob cyfleuster yr oes sydd ohoni ar gael yn y fan a'r lle. Ond mae mynd i fannau gwyllt Parc Cenedlaethol Eryri yn gyfle i bawb adennill eu hysbryd anturus ym mawredd mwyaf yr awyr agored.
Cafodd Eryri ei dynodi yn Barc Cenedlaethol ym 1951, un o'r Parciau Cenedlaethol mwyaf bendigedig o'r 11 sydd yn y DU a'r ail fwyaf ar ôl Ardal y Llynnoedd. Mae cefn gwlad y Parc yn ymestyn am 823 milltir sgwâr sy'n llawn cadwyni mynyddoedd aruthrol ac arfordiroedd gwyllt, digyffwrdd lle mae pob rhywogaeth bosibl o fywyd gwyllt yn byw.
Ond mae rhagor i Eryri na dim ond rhyfeddodau byd natur, am fod oddeutu 26,000 o bobl yn byw ac yn gweithio o fewn ei ffiniau. Ar ben hynny mae'n gartref i rai o'r ffermydd mynydd mwyaf diarffordd yn y wlad. Mae hi bron yn amhosibl byw yn yr ardaloedd hyn ac felly mae'r bobl sy'n ennill eu bywoliaeth yma yn gorfod bod mor gydnerth a gwydn â'r anifeiliaid y maent yn eu cadw; yn enwedig felly os ydynt yn gobeithio wynebu eithafion y tywydd, yn ystod yr haf a'r gaeaf.

