Lleoliad: Dolgellau
Ar un olwg mae Dolgellau yn enghraifft berffaith o dref farchnad fach yng Nghymru 0 ond bu iddi ran hollbwysig yn hanes Cymru. Pan oedd gwrthryfel Owain Glyndwr ar fynd yn erbyn Lloegr, yn Nolgellau y cynhaliodd ef ei Senedd olaf yng Nghymru ym 1404.
Y dyddiau hyn, mae Dolgellau yn chwarae rhan ddiwylliannol yn hytrach na rhan wleidyddol ym mywyd Cymru, trwy lywyddu Sesiwn Fawr Dolgellau bob mis Gorffennaf.
Pan gynhaliwyd y Sesiwn Fawr gyntaf, ar sgwâr y dref ym 1992, gwyl weddol fach ydoedd; erbyn heddiw hi yw un o'r gwyliau cerddoriaeth ryngwladol fwyaf a gorau yn y DU.
Yn Sesiwn Fawr fe geir cymysgedd o enwogion Cymru fel The Super Furry Animals a Cerys Mathews ynghyd â cherddorion amlwg o'r cyfandir fel Los de Abajo a Freshlyground.

