Lleoliad: Eglwys Sant Hywyn, Aberdaron
Mae Eglwys Sant Hywyn yn enwog am mai yma y bu'r bardd uchel ei barch, y Parch. R S Thomas yn traddodi ei bregethau. Mae ei lleoliad ar ymyl eithaf Penrhyn Llyn, gydag Ynys Enlli gerllaw, ymysg y mannau mwyaf trawiadol yn y Deyrnas Unedig drwyddi draw.
Mae hanes y Parch. Evelyn Davies a sut y bu iddi gael ei phenodi yn Ficer presennol Sant Hywyn ac Aberdaron gerllaw, gystal ag unrhyw ddrama a welwch ar y teledu. Bu'n briod â'r Parch. Paul Davies am 35 mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw cafodd Evelyn freuddwyd drachefn a thrachefn - y byddai'n cael ei phenodi yn Ficer Aberdaron.
Trist dweud y bu farw ei gwr yn 1993, ond yn ei gofid cafodd ysbrydoliaeth a phenderfynodd gael ei hyfforddi i fod yn ficer ei hun er mwyn parhau â'r gwaith a wnaed gan ei gwr. Cafodd ei dewis i adfywio'r plwyf ym mis Hydref 2000 ac mae hi'n dal i wneud hynny hyd heddiw.
Yn ardal Penrhyn Llyn mae hen air sy'n dweud "Os yw'r tywydd yn braf, arhoswch yma; os nad yw, ewch i unrhyw le arall."
Mae dyfroedd cynnes i'w cael gerllaw i amryw draethau'r ardal sy'n enwog am eu hewyn. Tref Abersoch yw un o'r prif fannau sy'n denu brigdonwyr a hwylwyr o bedwar ban y DU a thu hwnt - a chofiwch yr wyl Jazz fyd-enwog a gynhelir tua dechrau mis Mehefin bob blwyddyn. Bu'r enw da sydd i Benrhyn Llyn o fod yn lle gwych ar gyfer chwaraeon dwr, yn fodd i ddenu gwyl Wakestock i'r ardal.
Wakestock yw'r gystadleuaeth Sgîfyrddio fwyaf yn Ewrop (camp newydd gyffrous - cymysgedd o frigdonni a sgïo-dwr). Bob mis Gorffennaf bydd miloedd o Sgîfyrddwyr yn heidio i'r ardal i gystadlu mewn prif bencampwriaeth - cynhelir gwyl gerddoriaeth hefyd sy'n denu rhai o DJs a grwpiau blaenllaw'r byd ac ar frig y rhaglen eleni fydd Feeder, Carl Cox a'r Zutons. Prif dref Penrhyn Llyn yw Pwllheli sy'n cynnal marchnad awyr agored enwog ar y Maes (sgwâr y dref) bob dydd Mercher, lle bydd y siopwyr â llygad barcut yn chwilio am fargen neu ddwy!
Ac os ydych chi eisiau bwyd ar ôl chwilio am fargeinion ar amryw stondinau'r farchnad ar y Maes, yna mae Allports yn aros amdanoch - llwyddodd i ennill teitl y siop 'sgod a 'sglod orau ym Mhrydain un tro!

