Lleoliad: Portmeirion
Mae Portmeirion wedi'i argraffu ar gof cenhedlaeth gyfan a dyfodd i fyny yn ystod chwedegau'r hwyl a sbri - dyma lle cafodd cylt-gyfres The Prisoner ei ffilmio. Mae pentref Eidalaidd Clough Williams Ellis yng nghanol Eryri yn drysor pensaernïol yng ngwir ystyr y gair, a chafodd sioeau eraill eu ffilmio yma o dro i dro, fel Brideshead Revisited a Cold Feet.
Ar ôl edmygu cynnyrch gwaith caled, eto hynod a hardd, Clough Williams Ellis gall y bobl hynny sy'n hoffi moethau, flasu'r bwyd môr lleol gorau un ym mwyty adeilad palasaidd Gwesty Castell Deudraeth. Ond os yw eich anghenion yn fwy cymedrol, mae Deli bendigedig ym mhentref Penrhyndeudraeth gerllaw.

