Lleoliad: Llanberis, Parc Cenedlaethol Eryri
Os mai lleoliad sy'n mynd â'ch bryd, yna Llanberis amdani, pentref wrth droed yr Wyddfa, lle gwelwch Lyn Padarn ac adfeilion Castell Dolbadarn. A phan mae'r tywydd yn ddiflas beth am fynd i weld gorsaf bwer Mynydd Gwefru sydd wedi'i chuddio yng nghrombil y ddaear - digonedd i ddiddanu'r person mwyaf anturus.
Ac wedi diwrnod cyffrous yn mynydda cewch ail-fyw digwyddiadau'r dydd dros beint neu ddau yng Ngwesty'r Heights yn Stryd Fawr Llanberis, sydd â'i wal ddringo ei hun dan do! Mae'r Heights yn un o blith nifer o dafarnau, sy'n croesawu dringwyr, sydd wedi'u lleoli ar hyd y Stryd Fawr. Un arall yw'r Prince of Wales sydd gan "Y Cwrw Gorau yng Nghymru", ac organydd sy'n mynnu chwarae Auld Lang Syne trwy gydol y flwyddyn!
Mae byw mewn tref neu ddinas, ni waeth pa mor fach neu fawr ydyw, yn golygu na chawn, yn aml, wneud fel y mynnwn. Mae'r ffôn neu'r e-bost wastad yno, mae digwyddiadau'r byd ar gael ar y radio neu'r teledu, ac mae pob cyfleuster yr oes sydd ohoni ar gael yn y fan a'r lle. Ond mae mynd i fannau gwyllt Parc Cenedlaethol Eryri yn gyfle i bawb adennill eu hysbryd anturus ym mawredd mwyaf yr awyr agored.
Cafodd Eryri ei dynodi yn Barc Cenedlaethol ym 1951, un o'r Parciau Cenedlaethol mwyaf bendigedig o'r 11 sydd yn y DU a'r ail fwyaf ar ôl Ardal y Llynnoedd. Mae cefn gwlad y Parc yn ymestyn am 823 milltir sgwâr sy'n llawn cadwyni mynyddoedd aruthrol ac arfordiroedd gwyllt, digyffwrdd lle mae pob rhywogaeth bosibl o fywyd gwyllt yn byw.
Ond mae rhagor i Eryri na dim ond rhyfeddodau byd natur, am fod oddeutu 26,000 o bobl yn byw ac yn gweithio o fewn ei ffiniau. Ar ben hynny mae'n gartref i rai o'r ffermydd mynydd mwyaf diarffordd yn y wlad. Mae hi bron yn amhosibl byw yn yr ardaloedd hyn ac felly mae'r bobl sy'n ennill eu bywoliaeth yma yn gorfod bod mor gydnerth a gwydn â'r anifeiliaid y maent yn eu cadw; yn enwedig felly os ydynt yn gobeithio wynebu eithafion y tywydd, yn ystod yr haf a'r gaeaf.

