Lleoliad: Beddgelert, Parc Cenedlaethol Eryri
Mae Beddgelert yn enwog am chwedl y ci hela, ffyddlon y mae'r pentref wedi'i enwi ar ei ôl. Yn y chwedl, Gelert oedd ci ffyddlon Llywelyn, Tywysog Gogledd Cymru yn y 13eg Ganrif. Un diwrnod aeth Llywelyn i hela gan adael Gelert i ofalu am ei fab bach yn ei grud. Ar ôl dod yn ôl roedd yn fraw i'r tywysog weld bod y crud yn wag, a bod gwaed ar enau Gelert.
Roedd Llywelyn yn barod am y gwaethaf. Gyda'i gleddyf fe drywanodd y ci a thrwy nadau'r ci oedd ar farw fe glywodd faban yn crio. Edrychodd Llywelyn y tu ôl i'r crud a dyna lle'r oedd ei fab yn ddianaf a chorff blaidd anferth, yr oedd Gelert wedi'i drechu, wrth ei ochr. Fe gladdodd Llywelyn ei gi ffyddlon yn y fan lle saif pentref Beddgelert heddiw. Nid oedd dim cysuro ar y tywysog ac yn ôl y sôn, ni wnaeth ef wenu byth wedyn.
Erbyn heddiw nid y chwedl erchyll hon am lofruddiaeth ci yw'r unig beth y mae un o bentrefi mwyaf godidog Gogledd Cymru yn elwa arno. Yn sgil y doreth o focsys ffenestri lliwgar sy'n harddu Beddgelert, mae ef wedi ennill llu o wobrau cenedlaethol am ei brydferthwch cyffredinol. Ac os yw'r ymwelwyr yn hoffi pethau melys yna dylent anelu am Siop Hufen Iâ Glaslyn sy'n enwog.
Mae byw mewn tref neu ddinas, ni waeth pa mor fach neu fawr ydyw, yn golygu na chawn, yn aml, wneud fel y mynnwn. Mae'r ffôn neu'r e-bost wastad yno, mae digwyddiadau'r byd ar gael ar y radio neu'r teledu, ac mae pob cyfleuster yr oes sydd ohoni ar gael yn y fan a'r lle. Ond mae mynd i fannau gwyllt Parc Cenedlaethol Eryri yn gyfle i bawb adennill eu hysbryd anturus ym mawredd mwyaf yr awyr agored.
Cafodd Eryri ei dynodi yn Barc Cenedlaethol ym 1951, un o'r Parciau Cenedlaethol mwyaf bendigedig o'r 11 sydd yn y DU a'r ail fwyaf ar ôl Ardal y Llynnoedd. Mae cefn gwlad y Parc yn ymestyn am 823 milltir sgwâr sy'n llawn cadwyni mynyddoedd aruthrol ac arfordiroedd gwyllt, digyffwrdd lle mae pob rhywogaeth bosibl o fywyd gwyllt yn byw.
Ond mae rhagor i Eryri na dim ond rhyfeddodau byd natur, am fod oddeutu 26,000 o bobl yn byw ac yn gweithio o fewn ei ffiniau. Ar ben hynny mae'n gartref i rai o'r ffermydd mynydd mwyaf diarffordd yn y wlad. Mae hi bron yn amhosibl byw yn yr ardaloedd hyn ac felly mae'r bobl sy'n ennill eu bywoliaeth yma yn gorfod bod mor gydnerth a gwydn â'r anifeiliaid y maent yn eu cadw; yn enwedig felly os ydynt yn gobeithio wynebu eithafion y tywydd, yn ystod yr haf a'r gaeaf.

