Lleoliad: Traeth Morfa Bychan, Porthmadog
Pan mae'r haul yn tywynnu, a chredwch neu beidio mae hynny yn digwydd weithiau yng Ngogledd Cymru, yna yn ôl y bobl leol mae'r fan yma yn well na De Ffrainc. A bydd treulio diwrnod yn ymlacio ar draeth Morfa Bychan neu Draeth y Greigddu gerllaw ar ganol haf, yn profi eu bod yn llygaid eu lle.
Gam neu ddau o Forfa Bychan mae tref brysur Porthmadog sydd â dewis gwych o siopau, tafarnau a bwytai. Yn ystod misoedd yr haf bydd Porthmadog ar ei gorau ac mae caffe cyfandirol cyntaf y dref, y Mariner, sydd wrth yr harbwr, yn lle delfrydol i fanteisio i'r eithaf ar yr awyrgylch.

