Lleoliad: Betws y Coed
Mae Betws y Coed yn nefoedd ar gyfer pawb sy'n byw a bod yn yr awyr agored - o bobl sydd eisiau llif o adrenalin hyd at rai sy'n gobeithio mynd am dro hamddenol yn y coedwigoedd hardd o amgylch y pentref.
Lleolir Betws yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri ac mae ganddo lawer rhagor i'w gynnig i ymwelwyr na dim ond sgrialu i lawr mynyddoedd am y prynhawn! Yn y pentref mae amrywiaeth o siopau fel Anna Davies, siop adrannol leol, a'r Royal Oak sy'n gwerthu popeth ar gyfer gweithgareddau awyr agored.
Ac ar ôl yr holl ymdrech gorfforol, boed hynny'n gerdded, seiclo, dringo neu siopa beth am fynd am bryd o fwyd yng Nghaffe Rhaeadr y Graig Lwyd a Bwyty'r Dyfrgi, a gynlluniwyd gan Syr Clough Williams Ellis yr athrylith pensaernïol byd-enwog a oedd yn gyfrifol am Bortmeirion.

