Lleoliad: Chwarel Dinorwig, Mynydd Parys
Yng Ngogledd Cymru bu llechi wastad yn fwy na dim ond diwydiant - maent yn ngwaed y trigolion. Yn ôl chwedloniaeth dim ond y Cymry oedd yn ddigon medrus i dorri llechi o Chwarel Dinorwig - yn ôl pob tebyg dim ond i'r heniaith y mae'r garreg las yn ymateb!
Mae hen weithdai'r Chwarel wedi cael eu gweddnewid ac erbyn hyn yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol ydynt. Y prif atyniad yw rhes o fythynnod traddodiadol y chwarelwyr - 4 ohonynt - a gafodd eu symud i'r amgueddfa, garreg fesul carreg, o Danygrisiau bron 30 milltir i ffwrdd. Ond mae Dinorwig yn enwog am rywbeth arall hefyd - yn ogystal â'r tiroedd uchel dros ben sy'n tremio dros y Chwarel.
Ymysg plymwyr profiadol, mae Chwarel Vivian gerllaw yn dod i amlygrwydd, a hynny'n sydyn iawn, fel canolfan o bwys. Mae un o'r arbenigwyr chwaraeon tanddwr lleol, Kevin Williams, wedi agor siop blymio fychan ar y safle ac mae e'n cynnal cyrsiau arbenigol. Os gwneir cais iddo, mae e'n cynnig tripiau plymio oddi ar gychod o amgylch Ynys Môn, helfeydd trysor, barbeciws a sesiynau plymio gyda'r nos.
Mae Mynydd Parys ychydig i'r de o Amlwch ar Ynys Môn hefyd yn enwog am ei adnoddau naturiol. Yma, copr ac nid llechi sydd wedi gwneud yr ardal yn enwog ledled y byd, yn sgil y rhan hollbwysig a fu iddi yn un o'r brwydrau môr mwyaf tyngedfennol yn hanes Prydain.
Cafodd copr o Fynydd Parys ei ddefnyddio i lyfnhau cragen llong HMS Victory ym Mrwydr Trafalgar - o ganlyniad gallai deithio ddwywaith yn gyflymach, ac ni allai'r Ffrancwyr ei tharo.
Ar wahân i Fynydd Parys a'i ganolfan treftadaeth, mae'r dyfroedd o amgylch Trwyn Eilian a Phorthladd Amlwch yn adnabyddus, yn lleol, am bysgota da, ac mae llogi cwch er mwyn morio allan i ddyfroedd Môr Iwerddon ac Ynys Manaw yn sicr o arwain at ddiwrnod i'r brenin.
Elfyn a Terry sy'n cadw'r JulieAnne ac maent hwy'n gwybod ble mae'r pysgod gorau yn cuddio. Gallant hwy, gyda lwc, eich helpu chi i ddal pysgod trawiadol fel Gwyniad y Môr, Morgi, Penhaearn, Morlas, Celog, Lledod a Swtan. Ac os nad yw'r pysgod yn codi i'r abwyd, yna fe fydd 'paned enwog Terry yn sicr o godi'ch calon!

