Lleoliad: Wrecsam
Mae Wrecsam yn enwog, yn bennaf, am bêl-droed, siopa a lager - ond nid ar yr un pryd o angenrheidrwydd! Er mai Wrecsam yw'r dref fwyaf yng Ngogledd Cymru gyda'r holl gyfleusterau siopa modern, tai bwyta a bywyd nos y byddech chi'n disgwyl eu cael mewn unrhyw ardal drefol gyfoes, serch hynny mae hi'n dal i feddu ar gryn dipyn o hanes. Dyna ichi Blas Erddig, er enghraifft, maenordy urddasol o'r 17eg Ganrif.
Bu enwogion fel y Charlatans, Robert Plant a'r Saw Doctors yn perfformio yn y Central Station ac yn sgil hynny mae'r enw sydd i Wrecsam o fod yn ganolfan cerddoriaeth fyw a chomedi, yn datblygu o hyd.


