Lleoliad: Arhosfa'r Tram ar Gopa'r Gogarth, Llandudno
Yn y cyfnod pan oedd y Llychlynwyr go iawn yn ysbeilio ac anrheithio ar hyd arfordir Gogledd Cymru daethant o hyd i ddarn anferth o galchfaen a oedd yn ymestyn allan i'r môr.
Mae'n rhaid bod ei siâp anarferol wedi atgoffa un o'r ysbeilwyr o bryf genwair anferthol oherwydd mai hen air Llychlynnaidd am bryf genwair yw 'Orme'. Y dyddiau hyn mae trigolion enwog y Gogarth hefyd yn hoff o wisgo cyrn ar eu pennau, sef y Geifr Cashmir gwyllt a ymsefydlodd ar y Gogarth ar ôl iddynt gael eu rhoi yn anrheg i'r Frenhines Fictoria.

