Lleoliad: Cwm Ogwen
Peidiwch â cherdded ar fynyddoedd Dyffryn Ogwen os ydych chi'n wangalon, am fod rhai o'r llwybrau mwyaf troellog a pheryglus yng Ngogledd Cymru yn yr ardal hon. Ond gall y teithiau cerdded hyn eich arwain at drysorau mawr, gan gynnwys Gwarchodfa Natur Cwm Idwal - y cyntaf i gael ei dynodi yng Nghymru.
Natur Cwm Idwal - y cyntaf i gael ei dynodi yng Nghymru. Mae'r warchodfa'n edrych dros Lyn Idwal a enwyd ar ôl i fab Owain, Tywysog Gwynedd, gael ei foddi yn y llyn ac yn ôl y sôn mae ei ysbryd yn dal i gerdded yr ardal. Y brif dref yn Nyffryn Ogwen wrth gwrs yw Bethesda a ddaeth i amlygrwydd yn y blynyddoedd diweddar yn sgil enwogrwydd un o feibion y fro - Gruff Rhys - y prif leisydd gyda'r grwp enwog The Super Furry Animals.
Bu llwyddiant cyngerdd aruthrol a gynhaliwyd yn yr awyr agored gan y SFA yn y pentref, yn fodd i ysbrydoli pobl ifanc o Fethesda i agor caffe rhyngrwyd o'r enw Pesda Roc.

