Lleoliadau: Castell Penrhyn, Castell Caernarfon, Capel Curig, Biwmares, Llanfairpwll, Blaenau Ffestiniog, Beddgelert, Trawsfynydd a Chastell Gwrych
Rhaid ichi weld Castell Penrhyn drosoch eich hun, adeilad arallfydol, gothig sy'n tremio dros ddinas Bangor gerllaw. Ac os yw'r tu allan yn llygad-dynnol yna mae'r tu mewn bron a bod yn swrrealaidd, gyda gwely llechen un dunnell y Frenhines Fictoria a chegin sy'n llawn dop o fwyd ffug sy'n hynod dros ben.
Fel un o Safleoedd Treftadaeth y Byd, caiff castell Caernarfon a muriau'r dref eu hystyried ymhlith mawrion y byd fel y Taj Mahal a'r Barriff Mawr o ran eu harwyddocad hanesyddol.
Yn yr oes sydd ohoni mae'r dref, yn ddiweddar, wedi datblygu'n brif ganolfan ddiwylliannol gydag arlunwyr, beirdd, cerddorion a gwneuthurwyr ffilmiau, lleol a rhyngwladol, yn denu cynulleidfaoedd mawr i ganolfan gelfyddydau'r Galeri sydd newydd agor yn hen Ddoc Fictoria y dref.
Un o hoff fannau cerddwyr y bryniau a'r mynyddoedd yw pentref Capel Curig. Byddant yn dod yno o bedwar ban y byd am fod yr ardal yn cael ei hystyried yn fynedfa i olygfeydd bendigedig Eryri.
Yma hefyd mae 'Ty Hyll' er bod y disgrifiad hwnnw fymryn bach yn annheg - wedi'r cwbl, gwyn y gwêl y frân ei chyw!
Y Carchar a'r Castell sy'n denu pobl i Fiwmares ynghyd â'r amgueddfa plentyndod sy'n fyd-enwog. Ond yn y dref glan môr Sioraidd hamddenol hon y mae rhai o'r bwytai gorau ar Ynys Môn, a Chymru hyd yn oed.
Mae'r dref yn llawn o gaffes a bistros i ddanteithwyr ac mae tafarn Ye Olde Bull's Head Inn yn hen a hynod, gyda bwyty cwrw a bwyty ffurfiol i gyd o dan yr unto hanesyddol. Llanfairpwll yw'r pentref bach sydd ag enw mawr - sef, Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch i chi!
Mae llechi yn rhan annatod o Flaenau Ffestiniog heb os nac oni bai! Ond er gwaethaf yr olwg lwm sydd i dref wedi'i hadeiladu bron yn gyfan gwbl o'r garreg lwyd, mae Blaenau mewn gwirionedd yn gymuned lawn mynd, fodern dros ben sydd â'i byd diwylliannol bywiog ei hun. Bydd gwyl gerddoriaeth a chelfyddydau flynyddol o'r enw 'Stomp 'Stiniog' yn denu nifer fawr o bobl yno bob mis Mehefin.
Bydd cynulleidfaoedd llawn bywyd yn gorlifo i'r strydoedd o far Gwesty'r Frenhines er mwyn gwrando ar lu o grwpiau roc yn heulwen boeth yr haf (mae'n wir ichi - mae'r haul yn tywynnu ym Mlaenau Ffestiniog er gwaethaf y syniadau anghywir!) Mae Beddgelert yn enwog am chwedl y ci hela, ffyddlon y mae'r pentref wedi'i enwi ar ei ôl.
Yn y chwedl, Gelert oedd ci ffyddlon Llywelyn, Tywysog Gogledd Cymru yn y 13eg Ganrif. Un diwrnod aeth Llywelyn i hela gan adael Gelert i ofalu am ei fab bach yn ei grud. Ar ôl dod yn ôl roedd yn fraw i'r tywysog weld bod y crud yn wag, a bod gwaed ar enau Gelert. Roedd Llywelyn yn barod am y gwaethaf. Gyda'i gleddyf fe drywanodd y ci a thrwy nadau'r ci oedd ar farw fe glywodd faban yn crio. Edrychodd Llywelyn y tu ôl i'r crud a dyna lle'r oedd ei fab yn ddianaf a chorff blaidd anferth, yr oedd Gelert wedi'i drechu, wrth ei ochr. Fe gladdodd Llywelyn ei gi ffyddlon yn y fan lle saif pentref Beddgelert heddiw. Nid oedd dim cysuro ar y tywysog ac yn ôl y sôn, ni wnaeth ef wenu byth wedyn.
Erbyn heddiw nid y chwedl erchyll hon am lofruddiaeth ci yw'r unig beth y mae un o bentrefi mwyaf godidog Gogledd Cymru yn elwa arno. Yn sgil y doreth o focsys ffenestri lliwgar sy'n harddu Beddgelert, mae ef wedi ennill llu o wobrau cenedlaethol am ei brydferthwch cyffredinol. Ac os yw'r ymwelwyr yn hoffi pethau melys yna dylent anelu am Siop Hufen Iâ Glaslyn sy'n enwog.
Daeth pentref Trawsfynydd yn fyd-enwog pan gafodd hanes bywyd ei fab enwocaf, y bardd 'Hedd Wyn', a laddwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ei wneud yn ffilm a enwebwyd am Oscar.
Trawsfynydd hefyd oedd y lleoliad ar gyfer ffilm epig "First Knight" gyda'r actorion Richard Gere a Sean Connery, lle cafodd y golygfeydd bendigedig o amgylch y pentref eu gweddnewid yn Brydain yr henfyd. Bu cannoedd o bobl yn gwisgo dillad crand y canoloesoedd er mwyn chwarae rhan llyswyr Brenin Arthur.
Gwaetha'r modd mae Castell Gwrych wedi mynd â'i ben iddo braidd; sech hynny mae'n adeilad trawiadol i'w weld ger y clogwyn wrth ichi deithio ar hyd yr A55. Yn ei ddydd roedd Gwrych yn ffug-gastell Fictoraidd gogoneddus o wlad y tylwyth teg; roedd yn enwog am ei 18 twr bach a'i leoliad bendigedig yng nghanol y coed. Yn ystod yr Ail ryfel Byd roedd yn gartref i 200 o ffoaduriaid Iddewig ac yn y 1950au roedd yn wersyll ymarfer ar gyfer Randolph Turpin, Pencampwr Bocsio Pwysau Canol y Byd.
Ers 1989 bu'r Castell yn wag ac, o'r herwydd, mae ef wedi mynd yn adfail. Ond efallai y bydd y gogoniant a fu yn dychwelyd i Gwrych. Mae ef i fod i gael ei werthu yn ystod 2006.
Cael rhagor o wybodaeth...

