Lleoliad: Criccieth, Penrhyn Llŷn
Dyma un o'r trefi glan môr lleiaf sy'n fawr ei bri am y ddau draeth trawiadol sydd yno. Os cerddwch chi o ganol y dref hyd at dyrau Castell Cricieth - sy'n gryn bellter - byddwch ar eich ennill. Oddi yno, cewch olygfeydd bendigedig dros Fae Ceredigion. A'r unig ffordd ichi oeri'ch hun wedyn wrth gwrs yw mynd am hufen iâ yn siop Cadwalader sy'n ddiguro.
Yn ardal Penrhyn Llŷn mae hen air sy'n dweud "Os yw'r tywydd yn braf, arhoswch yma; os nad yw, ewch i unrhyw le arall."
Mae dyfroedd cynnes i'w cael gerllaw i amryw draethau'r ardal sy'n enwog am eu hewyn. Tref Abersoch yw un o'r prif fannau sy'n denu brigdonwyr a hwylwyr o bedwar ban y DU a thu hwnt - a chofiwch yr wyl Jazz fyd-enwog a gynhelir tua dechrau mis Mehefin bob blwyddyn.
Bu'r enw da sydd i Benrhyn Llŷn o fod yn lle gwych ar gyfer chwaraeon dwr, yn fodd i ddenu gwyl Wakestock i'r ardal. Wakestock yw'r gystadleuaeth Sgîfyrddio fwyaf yn Ewrop (camp newydd gyffrous - cymysgedd o frigdonni a sgïo-dwr).
Bob mis Gorffennaf bydd miloedd o Sgîfyrddwyr yn heidio i'r ardal i gystadlu mewn prif bencampwriaeth - cynhelir gwyl gerddoriaeth hefyd sy'n denu rhai o DJs a grwpiau blaenllaw'r byd ac ar frig y rhaglen eleni fydd Feeder, Carl Cox a'r Zutons. Prif dref Penrhyn Llyn yw Pwllheli sy'n cynnal marchnad awyr agored enwog ar y Maes (sgwâr y dref) bob dydd Mercher, lle bydd y siopwyr â llygad barcut yn chwilio am fargen neu ddwy!
Ac os ydych chi eisiau bwyd ar ôl chwilio am fargeinion ar amryw stondinau'r farchnad ar y Maes, yna mae Allports yn aros amdanoch - llwyddodd i ennill teitl y siop 'sgod a 'sglod orau ym Mhrydain un tro!


