Lleoliadau: Castell Caernarfon, Castell Conwy, Plas Newydd, a Llanfairpwll
Y dyddiau hyn mae tocyn neu bas diwrnod yn llawn digon er mwyn cael mynd i mewn i'r cestyll bendigedig yng Nghaernarfon a Chonwy. Ond yng nghyfnod Edward 1af byddai'r ymwelwyr, yn ôl pob tebyg, yn defnyddio saethau tanllyd, hyrddod rhyfel a chatapyltiau anferthol er mwyn gwerthfawrogi crefftwaith pensaernïaeth y canoloesoedd!
Ond os mai lleoliad â hanes llai cythryblus sy'n apelio atoch yna beth am Blas Newydd ar Ynys Môn.
Plasty mawreddog o'r 18fed ganrif ydyw wedi'i leoli ar lannau Afon Menai ac ynddo mae murlun mwyaf dan do yr arlunydd Rex Whistler yn ogystal ag amgueddfa filwrol sydd wedi'i chyflwyno i Farcwis 1af Ynys Môn a gollodd ei goes ym Mrwydr Waterloo. Gerllaw gwychder urddasol Plas Newydd y mae'r enw sydd ar wefusau pawb, sef Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch i chi! Ar wahân i'r enw, prif atyniad y pentref yw ei orsaf drenau - y cyntaf un i'w hagor ar yr ynys - ac mae'n werth chweil bwrw golwg ar a blasu bwydlen bwyty'r Seidins.

