Lleoliad: Cilcain, Yr Wyddgrug
Am 364 diwrnod y flwyddyn, pentref bach cysglyd yng nghysgod harddwch Bryniau Clwyd yw Cilcain. Dyna lle mae e'n swatio'n braf, gan ddenu ymwelwyr gyda'i eglwys hudolus o'r 14eg Ganrif.
Ond ar ddydd Llun Gwyl y Banc mis Awst bydd y rhedwyr mwyaf cydnerth o bell ac agos yn heidio yno i gystadlu yn Ras Fynydd Moel Famau, sy'n cynnwys rhedeg i gopa uchaf Bryniau Clwyd - nid ras i'r gwangalon yn sicr!


