Lleoliad: Ynys Llanddwyn, Ynys Môn
Mae Ynys Llanddwyn yn gyforiog o chwedlau a llên gwerin hynafol Cymru, a llawer mwy na hynny. Yn y twyni tywod euraidd hynny mae gwir gariad am mai'r ynys hon ar un adeg oedd cartref y Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru. Roedd Dwynwen yn byw mewn mynachlog ar yr ynys yn y 5ed Ganrif ac mae cariadon yng Nghymru yn ei choffau yn serchog ar Ionawr 25ain - Gwyl Sain Folant ychwanegol. Felly cofiwch gariadon ifanc ym mhobman, peidiwch â mynd i Ynys Llanddwyn os yw dwywaith cymaint o gariad yn ormod ichi!
Ond peidiwch â meddwl y bydd cyfarfod eich cariad o dro i dro yn y twyni tywod yn osgoi sylw. Mae'r ynys yn gartref i braidd o ddefaid Soay anghyffredin, sydd i'w cael yn Yr Alban fel arfer. Ond byddant yn cadw'r gyfrinach - mae'r brîd hwn yn credu mewn "taw piau hi"!

