Lleoliad: Maes Carafanau Gorse Hill, Conwy
Mae maint yn bwysig yng Nghonwy yn sicr; yno, da yw popeth mawr a hardd yw popeth bychan. Mae cadernid Castell Conwy yn edrych dros 'y ty lleiaf yng Nghymru' llawn hynodrwydd a swyn, lle bydd miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn yn cael mynd dros ei riniog, fesul un ar y tro.
Mae'r dref fechan yn enwog dros ben am yr amrywiaeth o siopau o safon uchel sydd ganddi, gyda'r rhan fwyaf ohonynt ar y Stryd Fawr. Un o'r busnesau mwyaf adnabyddus yw Edwards o Gonwy, cigyddion arobryn rhyngwladol, sy'n cael ei reoli gan 'Bencampwr Selsig Cymru Gyfan' Ieuan Edwards.

