Lleoliad: Caernarfon
Fel un o Safleoedd Treftadaeth y Byd, caiff castell Caernarfon a muriau'r dref eu hystyried ymhlith mawrion y byd fel y Taj Mahal a'r Barriff Mawr o ran eu harwyddocâd hanesyddol.
Yn yr oes sydd ohoni mae'r dref, yn ddiweddar, wedi datblygu'n brif ganolfan ddiwylliannol gydag arlunwyr, beirdd, cerddorion a gwneuthurwyr ffilmiau, lleol a rhyngwladol, yn denu cynulleidfaoedd mawr i ganolfan gelfyddydau'r Galeri sydd newydd agor yn hen Ddoc Fictoria y dref.
Mae agwedd lai ffurfiol ar fywyd diwylliannol lliwgar Caernarfon i'w chael yn Nhafarn y Black Boy, sy'n dyddio o'r 16eg ganrif, sydd i lawr lôn dawel y mae'r bobl leol ei galw yn "Stryd Pedwar a Chwech".
Llên gwerin y dref sy'n gyfrifol am yr enw; ers talwm gallai llongwyr, a oedd yn ymweld â'r dref, brynu dynes, ystafell a photelaid o jin yn y Black Boy am y pris bargen hwn. Mae pethau wedi tawelu ers y cyfnod hwnnw ond mae'r dafarn yn dal i gynnal nosweithiau cerddoriaeth a barddoniaeth sy'n llawn hwyl a sbri.

