Lleoliad: Castell y Waun
Adeiladwyd Castell y Waun ym 1310 ac ar un adeg roedd yn gaer gadarn a oedd yn amddiffyn y Gororau. Y dyddiau hyn mae e'n fwy enwog am ei erddi a'i barc, ac o diroedd y castell cewch fwynhau golygfeydd godidog dros y llwybr cerdded cenedlaethol - Clawdd Offa, sy'n ymestyn o Gas-gwent i Brestatyn.
Mae naws ramantus i Gastell y Waun hefyd; mae Gwen's, siop briodasol yn gwneud gwisgoedd priodas o waith llaw, sy'n ddigon da i fodloni tywysoges.

