Lleoliad: Goleudy Traeth Talacre
Nid yw'n gweithredu ers 1883 a phan mae'r llanw ar ei uchaf bydd goleudy trawiadol, unig y Parlwr Du, sy'n dyddio o'r 18fed Ganrif, wedi'i wahanu'n gyfan gwbl oddi wrth y tir sych. O Dreth Talacre hefyd ceir golygfeydd bendigedig tuag at Fôr Iwerddon a Chilgwri i'r cyfeiriad arall.
Mae'r Parlwr Du wedi cael ei ddynodi yn safle'r RSPB sydd â'i chuddfan ei hun ychydig i'r chwith o'r goleudy, sy'n edrych dros Gors Talacre. Yn y corsydd a'r twyni mae adar fel crec yr eithin, tinwen y cerrig, clochdar y cerrig, yr ehedydd ac amryw deloriaid wedi ymgartrefu.
Mae Cwningar Talacre (rhwng pen Ffordd yr Orsaf a'r goleudy) yn lle arbennig o dda i weld adar ymfudol fel Môr-wenoliaid, Sgiwennod y gogledd, pedryn Leach, gwylanod coesddu ac amryw fôr-hwyaid. Yng Nghanolfan Farchogaeth Bridlewood yn Nhy'n-y-Morfa gerllaw mae cyfle i'r reidwyr profiadol yrru eu gwaed i redeg, a reidio ceffyl ar garlam ar hyd y traeth. Cofiwch un peth - pwyll piau hi pan ydych chi wedi cyrraedd y goleudy!

