Lleoliad: Pwllheli
Ar un adeg roedd Pwllheli yn borthladd prysur ar gyfer llongau a gludai nwyddau ledled moroedd y byd, ac o gofio hynny mae enw'r dref yn addas dros ben.
Ym Mhwllheli hefyd fe gynhelir marchnad awyr agored enwog ar y Maes (sgwâr y dref) bob dydd Mercher lle bydd siopwyr â llygaid barcut yn chwilota am fargen neu ddwy! Ganrifoedd yn ôl byddai'r farchnad yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn, pan fyddai ffermwyr o bob cwr o Benrhyn Llyn yn dod â'u hanifeiliaid a'u cynnyrch i'w gwerthu yma.
Trol a cheffyl a cherdded oedd yr unig ddulliau o deithio bryd hynny - ac fe allai gymryd 2 ddiwrnod i gyrraedd y farchnad! Ac os ydych chi eisiau bwyd ar ôl chwilio am fargeinion ymysg amryw stondinau'r farchnad ar y Maes yna mae Allports yn aros amdanoch - llwyddodd i ennill teitl y siop 'sgod a 'sglod orau ym Mhrydain un tro!
Un o adeiladau mwyaf hanesyddol y dref yw Liverpool House ar Stryd Penlan. Mae plac yn dangos ble y cafodd y bardd, dramodydd a'r actor enwog o Gymru ei eni, sef Albert Evans Jones.
Ganed Albert Evans Jones neu Cynan (ei enw barddol) ym 1895, a bu'n Archdderwydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru ar ddau achlysur ac ef oedd llywydd yr wyl pan gafodd y Tywysog Siarl ei arwisgo yn Dywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon ym 1969.
Ymysg mawrion eraill Pwllheli mae Clough Williams Ellis - pensaer enwog Portmeirion a Richard Tudor - a fu'n gapten ddwywaith ar long hwyliau yn yr Her-Ras o Amgylch y Byd.
Mae Penrhyn Llyn yn cael ei glodfori ledled Cymru am y maint aruthrol a syfrdanol, o fwyd môr sy'n cael ei ddal yn lleol - mae ei safon gyda'r gorau yn y byd hefyd. A'r lle gorau i flasu danteithion Bae Ceredigion yw Pwllheli ar ddechrau mis Gorffennaf, pan fydd Gwyl Fwyd Môr Pwllheli yn cael ei chynnal ym Marina Pwllheli.
Ond os mai cyffro sy'n mynd â'ch bryd yna Parc Glasfryn amdani. Mae yno beth wmbredd o weithgareddau ar gynnig fel go-certio, beiciau pedair olwyn, saethyddiaeth, saethu colomennod clai a bowlio deg. Ac os mai hamddena ymlaciol sy'n apelio atoch, yna beth am roi cynnig ar bysgota.

