Comisiwn Sgrîn Cymru
Cafodd Comisiwn Sgrîn Cymru ei greu i gynorthwyo gwneuthurwyr ffilmiau sydd eisoes yn gweithio neu'n meddwl am weithio yng Nghymru, trwy roi cymorth gyda lleoliadau, criw a chyfleusterau - y mae pob un ohonynt yn rhan o sicrhau bod Cymru yn wlad sy'n "gydnaws â gwneud ffilmiau".
Mae'r holl staff yn swyddfa Comisiwn Sgrîn Cymru yng Ngogledd Cymru yn meddu ar wybodaeth dda o'r ardal leol ac mae'r amrywiaeth ryfeddol o leoliadau sydd ar gael yng Ngogledd Cymru yn golygu y gallant gynorthwyo Rheolwyr Lleoliad i ddewis y gorau ar gyfer eu hanghenion - boed hynny'n draeth digyffwrdd, castell Edwardaidd go iawn, gweundiroedd gwyllt, pentref hen a hynod, coedwigoedd gwyrddlas neu'r cefndir unigryw y mae Parc Cenedlaethol Eryri yn ei gynnig.
Trwy gyfrwng y cysylltiadau sydd ganddo gall Comisiwn Sgrîn Cymru hefyd sicrhau y bydd gan bawb sy'n gwneud ffilmiau neu raglenni teledu atgofion hyfryd am y cyfnod y buont yng Ngogledd Cymru. Ac yn sicr byddant yn dymuno dod yn ôl i'r rhan drawiadol hon o'r DU, dro ar ôl tro.


