Ynglyn â'r ffilm-fap
Fe ddechreuodd Llwybr Ffilm & Theledu Gogledd Cymru gyda chyfres o blaciau er mwyn clodfori'r mannau, ledled Gogledd Cymru, lle cafodd ffilmiau a rhaglenni teledu eu ffilmio.
Bu'r cyntaf ohonynt yn dathlu'r ffilm "Inn of the Sixth Happiness". Cafodd ei ffilmio ym 1958 ym Meddgelert yng nghanol harddwch Parc Cenedlaethol Eryri. Y cynhyrchydd oedd Mark Robson, a sêr y ffilm oedd Ingrid Bergman, Curt Jürgens, Robert Donat a Burt Kwouk.
A Burt Kwouk ei hun a ddadorchuddiodd y plac ar 28 Mai 2004, sydd bellach i'w weld y tu allan i siop 'Woodcraft' ar brif stryd Beddgelert. Mae'n bur debyg y cofiwch ichi weld Burt yn actio yn ffilmiau "Pink Panther" ac yn fwy diweddar yn chwarae rhan Entwhistle yn "Last of the Summer Wine".
Erbyn hyn mae un deg un plac i gyd wedi'u gosod, ac mae ugain arall yn yr arfaeth ar gyfer y dyfodol.
Rydym yn gobeithio y bydd y map hwn yn rhoi rhagflas ichi o'r amrywiaeth o ffilmiau a rhaglenni teledu a gafodd eu ffilmio yn ein hardal hynod brydferth ni o'r DU.
Efallai eich bod yn dod i'n hardal am y tro cyntaf neu wedi bod yma o'r blaen, neu'n aelod o glwb edmygwyr neu'n rhywun sy'n hoffi gweld lle cafodd rhywbeth ei ffilmio - does dim gwahaniaeth - bydd Ffilm-Fap Gogledd Cymru yn rhoi'r cyfle ichi weld drosoch eich hun pam y mae cymaint o reolwyr lleoliad yn dewis Gogledd Cymru fel eu canolfan.
O draethau arobryn Baner Las hyd at ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, yng Ngogledd Cymru fe gewch hamddena ac ymlacio. I gael cymorth gyda dod o hyd i lety yng Ngogledd Cymru, boed hynny'n ffermdy, gwely a brecwast neu westy 5 seren, edrychwch ar y categorïau gwe-ddolen ar ochr chwith y ddewislen neu ffoniwch ein llinell archebu a chadw lle mewn llety ar 08705 168767.














